Llyn Tegid (Bala Lake) in Snowdonia, North Wales is second to none for water activities and a fantastic addition for your holiday. You can rent canoes, paddle boards, sailing and rowing boats at the foreshore in Bala, along with whitewater rafting at the Tryweryn centre. For early morning wild swims nothing beats the tranquil beach at Llangywer, one mile walk from the farm. For those who enjoy biking, the nine mile flat cycle track along the estuary from Dolgellau to Barmouth is a short drive away, as well as the world famous Coed y Brenin mountain biking centre. Hope in the car and head to Zip World in Llechwedd if you fancy a thrill or even head down to the caves in North Wales. If you leave the car for the duration of your holiday, there are endless walking paths in all directions from the farm, to the top of the mountain behind the farm or the 2 ½ miles to the village pub, with the icing on the cake being a narrow gauge railway journey back to Llangywer!
What to do at Pant y March
Due to its mountainous location and an absence of heavy machinery, the farm is a peaceful haven, where visitors young and old are encouraged to roam freely as befits a family holiday in Bala & Snowdonia. As the day draws to a close you can enjoy spectacular sunsets across the lake, viewed from your private hot tub (if you have booked a tent with one).
Welsh language version
Bywyd syml ar ei orau ym Mhant y March
Mae Pant y March wedi ei leoli yn Ne Parc Cenedlaethiol Eryri yn un o ffermydd cyntaf i sefydlu partneriaeth hefo Featherdown Farms yng Nghymru. Bydd y croeso gan Geraint a LLinos Jones yn gynnes. Mae Llinos o'r ardal ac yn y ty yma y ganed ei thaid dros ganrif yn ol a symudodd y teulu yma yn 2007. Oherwydd natur fynyddig y fferm, yr ydym yn cadw defaid, ychydig o wartheg, ieir ac yn cadw trefn arnynt i gyd mae ein ci defaid. Hon yw y fferm mwya mynyddig o ran tirwedd o holl ffermydd sydd yn rhan o 'Featherdown Farms' ac mae y golygfeydd o Lyn Tegid a'r Arenig yn odidog. Lle perffaith i fwynhau gwyliau yn Eryri.
Ychwanegwyd y pod sawna tân coed yn 2025 am brofiad moethus. Gan ffitio hyd at 5 o bobl ac yn cymryd tua 45 munud i gynhesu, mae'n berffaith ar gyfer ymlacio ar ôl diwrnod o gerdded neu ddim ond ymlacio yn ystod eich arhosiad. Mae croeso i chi archebu sesiwn naill ai trwy'r wefan neu ar ôl i chi gyrraedd am gost ychwanegol. Profwch ymlacio gwirioneddol wrth i chi fwynhau golygfeydd godidog dros gefn gwlad Cymru, yn berffaith ar gyfer nosweithiau'r hydref neu wyliau haf.
Mae Llyn Tegid yn atyniad poblogaidd ar gyfer gweithgareddau dwr. Gallwch logi canw, padlfwrdd, cwch hwylio a chychod rhwyfo oddi ar y traeth yn y Bala, ynghyd a rafftio dwr gwyn ar yr Afon Tryweryn. Ar gyfer nofio gwyllt, does dim safle gwell na'r traeth yn Llangywer, milltir o'r pebyll. Ar gyfer y rheiny sydd yn mwynhau beicio hamddenol hefo'r teulu mae na lwybr beics bendigedig sydd yn dilyn hen reilffordd am naw milltir o Ddolgellai i Bermo yn ogystal a Choed y Brenin i rai sydd yn chwylio am brofiad beicio mwy anturus. Os y penderfynwch adael y car yn ystod eich gwyliau mae digonedd o lwybrau cerdded yn arwain o'r fferm i ben y bryniau neu i dafarn Yr Eagles yn Llanuwchllyn gyda thaith tren yn ol i Langywer ar hyd Rheilffordd LLyn Tegid.
Oherwydd natur fynyddig y fferm mae yn dawel yma o ran peiriannau fferm ac mae'n gwesteion hen ac ifanc yn cael eu hannog i grwydro ar hyd y caeau a'r mynydd. Ar ddiwedd y dydd gallwch fwynhau machlud ysblennydd dros y mynyddoedd. Be well na mwynhau cyhydig o gynnyrch lleol i swper cyn ymlacio yn y babell mwya cysurus a hyfryd.